datganiadau cenedlaethol-drefedigaethol yn y wasg Gymreig a'r wasg Fasgaidd yn y 1890au
نام ساير پديدآوران
Jones, Aled
وضعیت نشر و پخش و غیره
نام ناشر، پخش کننده و غيره
Bangor University
تاریخ نشرو بخش و غیره
2019
یادداشتهای مربوط به پایان نامه ها
جزئيات پايان نامه و نوع درجه آن
Ph.D.
کسي که مدرک را اعطا کرده
Bangor University
امتياز متن
2019
یادداشتهای مربوط به خلاصه یا چکیده
متن يادداشت
Digwyddiadau, pobl a llenyddiaeth wleidyddol yng Nghymru a Gwlad y Basg rhwng 1876 a 1918 yw cefnlen hanesyddol ehangaf yr astudiaeth hon, a datganiadau cenedlaetholgar yn y wasg yn ystod y 1890au sy'n dwyn ei sylw yn benodol. Yn ôl hanesyddiaeth draddodiadol y ddwy wlad hyn, dyma'r cyfnod y ganwyd cenedlaetholdeb Cymreig a Basgaidd modern ar ffurf y mudiad Cymru Fydd yng Nghymru a'r Blaid Genedlaetholgar Basgaidd (EAJ-PNV) yng Ngwlad y Basg. Dyma'r cyfnod hefyd y gwelwyd ffrwydrad o ddadleuon, trafodaethau a phropaganda yn y wasg ar y cwestiwn cenedlaethol, ynghyd â nifer mawr o gyhoeddiadau newydd ac iddynt y pwrpas penodol o hyrwyddo ac amddiffyn achosion cenedlaethol yn gyffredinol. Dyma'r cyfnod, felly, y ganwyd ac y blodeuodd gyntaf ddisgwrs cenedlaethol Cymreig a disgwrs cenedlaethol Basgaidd yr oes fodern. Gan ystyried syniadau Michel Foucault ac ôl-strwythurwyr eraill sy'n dal mai trwy ddisgwrs y ffurfir ymwybyddiaeth wleidyddol a thrwy ddisgwrs y gweithredir dyheadau actorion gwleidyddol, mae'r astudiaeth hon yn dadansoddi a chymharu paradeim disgyrsiol y ddau fudiad cenedlaethol ifanc. Trefnir y dadansoddiad yn bedair haen sy'n cynrychioli camau adeiladol yn rhesymeg a strategaeth rethregol y ddau ddisgwrs, o'u datganiadau hiliol ac ethnolegol yng 'ngwaelod y ffos' hyd at ddatganiadau gwleidyddol ac economaidd yn nes at yr wyneb. Dadleuir bod yr haenau unigol a'r paradeim cyfan yn gweithio fel cyfundrefn unedig, a bod datganiadau ar wyneb y disgwrs megis 'hunanlywodraeth i Gymru!' yn dibynnu ar ddatganiadau sylfaenol megis 'ni'r Cymry' ar waelod y ffos am eu grym semantig ac awdurdod rhethregol. Dadleuir hefyd, sut bynnag, nad yw'r paradeim yn gadarn ac yn gyson o ran cryfder ei ddadleuon cenedlaetholgar: mae lleisiau amrywiol yn mabwysiadu ac wedyn yn gwrthddweud rhai o'i ddaliadau pwysicaf, a'r paradeim yn methu yn aml iawn caniatáu casgliadau cenedlaetholgar rhesymegol. Dadleuir, felly, mai ynghyd â dylanwad disgyrsiau 'cenedlaethol-wrthimperialaidd' gwledydd bychain eraill y 19g, megis Iwerddon, Catalwnia, Hwngari, a'r Eidal, dylanwadwyd yn gryf ar ddisgyrsiau cenedlaethol Cymreig a Basgaidd gan brofiadau trefedigaethol hanesyddol y ddwy wlad a chan ddisgyrsiau 'cenedlaethol-imperialaidd' Prydain a Sbaen yn y 19g hwyr. Dadleuir, felly, mai disgyrsiau 'cenedlaethol-drefedigaethol' a welir yn newyddiaduraeth genedlaetholgar y 1890au yng Nghymru a Gwlad y Basg yn y pen draw. Dyma gymhariaeth o ddau ddisgwrs cenedlaethol-drefedigaethol hanesyddol: mae'n gymhariaeth a gyflawnir o fewn fframweithiau a ddygir o theori gymharol, theori ôl-strwythurol a theori ôl-drefedigaethol. Caniatâ inni edrych ar ddisgyrsiau cenedlaethol-drefedigaethol Cymreig a Basgaidd y 1890au mewn ffordd hollol newydd: dylai ganiatáu inni ddadansoddi disgwrs cenedlaethol Cymreig a Basgaidd yr 21g mewn ffordd hollol newydd hefyd.
موضوع (اسم عام یاعبارت اسمی عام)
موضوع مستند نشده
Basque nationalism
موضوع مستند نشده
discourse
موضوع مستند نشده
postcolonialism
موضوع مستند نشده
Welsh nationalism
نام شخص به منزله سر شناسه - (مسئولیت معنوی درجه اول )